Ymunwch

Cymdeithas yr Awduron yw undeb llafur y Deyrnas Unedig ar gyfer pob math o awduron, darlunwyr a chyfieithwyr llenyddol.

Rydym yn codi’n llais ar ran y proffesiwn ac yn cynghori unigolion o ddechrau eu gyrfaoedd.

Rydym yn bodoli i gefnogi awduron o bob math, o ddarlunwyr a sgriptwyr i nofelwyr a beirdd, ac o gyfieithwyr llenyddol ac awduron teithio i nofelwyr graffig a newyddiadurwyr – p’un a ydych yn ysgrifennu yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Fel aelod, p’un a ydych chi newydd ddechrau gweithio neu’n gweithio’n llawn amser, byddwn yn eich helpu gyda faint bynnag o gyngor ag y mynnwch, fetio contractau, llinellau cymorth a hyfforddiant proffesiynol, disgowntiau ar lyfrau, yswiriant a mwy. Byddwch yn dod yn rhan o gymuned gynyddol o weithwyr proffesiynol, gyda mynediad am ddim i grwpiau arbenigol sy’n cynnwys Cymdeithas yr Awduron yng Nghymru, ein cymdeithas cyfieithwyr, a chyfleoedd drwy’r flwyddyn gron i rwydweithio gyda’ch cyfoedion ar-lein ac mewn digwyddiadau ledled y DU.

Mewn undeb mae nerth – a Chymdeithas yr Awduron yw’r undeb i fi

Christopher Meredith

Pam ymuno?

Pump ffordd gall Cymdeithas yr Awduron eich helpu.

Ymgyrchu a lobïo

Ni yw eich Undeb Llafur — llais ar y cyd sy’n derbyn clust drwy’r diwydiant cyfan a gan y Llywodraeth. Rydym yn ymgyrchu ar faterion sy’n cynnwys contractau a chyflogau teg gan gyhoeddwyr a gwyliau, diogelwch cyfreithiol ac ariannol i awduron, llyfrgelloedd, rhyddid i lefaru a mwy.

Cyngor proffesiynol

Mae ein cynghorwyr yn cynnig cyngor cyfrinachol di-ben-draw, yn rhad ac am ddim, ynglŷn â phob agwedd ar eich busnes – gan gynnwys contractau, hawlfraint a chyfraddau, a chewch ddefnyddio ein llinellau cymorth cyfreithiol a threth.

Datblygiad proffesiynol

Ymunwch â’n gweithdai a lawrlwythwch arweiniad ar bynciau mor amrywiol â hunan-hyrwyddo, gwefannau, hunan-gyhoeddi a llên-ladrad. Byddwch yn cael newyddion misol drwy e-bost a chopi chwarterol o The Author.

Cymuned Cymdeithas yr Awduron

Mae grwpiau lleol (o Aberystwyth i Fynwy), ein rhwydweithiau diddordeb arbennig (sy’n cynnwys awduron a darlunwyr, beirdd a sgriptwyr sy’n darparu i blant), digwyddiadau a’r wefan, a’r fforwm ar-lein Cwtch, oll yn cynnig cyfleoedd drwy’r flwyddyn gron a thrwy Brydain gyfan i gwrdd ag aelodau eraill er mwyn cael cymorth a chyngor ac i rwydweithio. 

Cynigion Arbennig

Mae eich aelodaeth yn datgloi aelodaeth rad ac am ddim o ALCS, a dwsinau o ostyngiadau a thanysgrifiadau trydydd parti, gan gynnwys Waterstones a Llyfrgell Gladstone.

Mae angen unigedd a’r ymdeimlad o berthyn ar bob awdur. Braint yw bod yn aelod  o’r Gymdeithas hon — yn rhan o linach y ‘cwmwl tystion’ a arweiniodd y ffordd dros orfoledd a rheidrwydd ysgrifennu.
 

Menna Elfyn

Byddwch yn rhan o gymuned Cymdeithas yr Awduron

Llai nag £2 y wythnos.

Dau gyfradd aelodaeth yn seiliedign ar ddatblygiad eich gyrfa.

Aelodaeth llawn

Os ydych wedi cael eich cyhoeddi’n broffesiynol neu os ydych yn berfformiwr sefydledig.

Aelodaeth Gyswllt

Os yw asiant neu gomisiynydd wedi cynnig contract i chi neu os ydych chi wrthi’n gweithio i ddatblygu eich gyrfa fel awdur.

Dyfyniad: Rwy’n gwerthfawrogi bod yn aelod o Gymdeithas yr Awduron am lawer o resymau, yn enwedig y gefnogaeth y maent yn ei chynnig gyda chontractau ac anghydfodau yn y byd cyhoeddi. Oni bai am y cymorth a gefais i ganddyn nhw un tro, rwy’n amau y byddwn i wedi parhau i weithio yn y diwydiant. Gall fod yn fywyd unig gweithio ar eich liwt ei hun. Mae Cymdeithas yr Awduron yn ein cysylltu ni i gyd, ac yn ein gwneud yn gryfach.

Jackie Morris

Ymunwch heddiw a dod yn rhan o’r rhwydwaith fwyaf o awduron proffesiynol yn y DU. Defnyddiwch y cod WALES20 neu CYMRU20 pan fyddwch chi’n cofrestru ac yn derbyn 20% oddi ar eich blwyddyn gyntaf fel aelod. Croeso! Ymunwch yma.